logocircle logotext logoyfc
 
 
navigationbar
 

 
galleryGaleri

Photos of Wales YFC members in the photo gallery Photos of Wales YFC members in the photo gallery
Photos of Wales YFC members in the photo gallery Photos of Wales YFC members in the photo gallery
Mwy >>
 

Pentref Ieuenctid 2010

 

 

Paratoadau ar y gweill ar gyfer Pentref Ieuenctid 2010

Yn 2010 hwn bydd y lleoliad ar gyfer gwyliau'r flwyddyn, gyda phedwar noson o adloniant gwych ar gael o nos Sul y 18fed o Orffennaf nes nos Fercher y 21ain o Orffennaf.

Yn dilyn llwyddiant y babell enfawr eleni, fe fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn pabell enfawr unwaith eto eleni a fydd yn adeiladu ar yr awyrgylch unigryw a chyffrous yno.

Bydd cyfleusterau gwersylla ar gael gyda chawodydd gwych, glân a chynnes gyda chanolfan pwyntiau pŵer ar gyfer y rhai a fydd angen sythu eu gwallt a chargio'r ffonau symudol yn ystod yr wythnos. Mae CFfI Cymru hefyd yn bwriadu darparu cyfleusterau golchi dwylo er mwyn lleihau'r ciw ar gyfer y cawodydd.

Bydd bar ar gael yn ystod y dydd yn ogystal â chaffi lle bydd modd i chi eistedd, mwynhau pryd, ymlacio a gwylio'r byd yn mynd heibio. Bydd y gwasanaethau hyn hefyd mewn pabell enfawr.

Mae'n rhaid bod yn 16 neu hŷn i fynychu'r Pentref Ieuenctid a bydd angen i unrhyw un sy'n 21 ac iau i ddangos cerdyn ID.

Mae'r prisiau ar gyfer yr wythnos fel y ganlyn;

 

Aelodau

Ddim yn aelodau

Wristband Wythnos

(o flaen llaw)

£28

£33

Wristband Wythnos

(ar y dydd Sul)

£33

£35

Tocyn noson

£10

£10

Lle ar gyfer pabell

£100

£115

Lle ar gyfer carafán

£125

£150

Gwersylla un noson
 £30 £30

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae ffurflenni ar gyfer gwersylla a phecynnau adloniant 2010 ar gael drwy glicio yma.