logocircle logotext logoyfc
 
 
navigationbar
 

 
galleryGaleri

Photos of Wales YFC members in the photo gallery Photos of Wales YFC members in the photo gallery
Photos of Wales YFC members in the photo gallery Photos of Wales YFC members in the photo gallery
Mwy >>
 

NEWYDDION

GWOBRWYO CLYBIAU FFERMWYR IFANC CYMRU AM EU PROSIECTAU AMGYLCHEDDOL A’U HYSBRYD CYMUNEDOL!

Mae tri chlwb o Fudiad Ffermwyr Ifanc Cymru wedi derbyn gwobr am eu prosiectau amgylcheddol a’u hysbryd cymunedol fel rhan o Her y Gymuned a’r Amgylchedd (HGA).

Cyflwynodd nifer o glybiau, a oedd yn cymryd rhan yn yr her, manylion ynglŷn â’u gwaith cymunedol i banel o feirniaid yn y Ffair Aeaf eleni.

Dywedodd Dylan Jones, Cadeirydd Pwyllgor Materion Gwledig CFfI Cymru: “Mae’r gwobrau yn ffordd dda o gael aelodau i gydweithio a dysgu sgiliau newydd. Mae’r amgylchedd ehangach a chymunedau gwledig hefyd yn elwa.”

Unwaith eto cafwyd nifer o geisiadau amrywiol yn 2009. Ymgeisiodd clybiau ar draws Gymru gyda nifer o brosiectau gwahanol o fewn y tri chategori - cefn gwlad a’r amgylchedd, cymuned a threftadaeth a digwyddiad neu adloniant.

Yr enillydd haeddiannol yn y categori ‘Cefngwlad a’r Amgylchedd’ oedd “The Secret Garden” gan CFfI Wentwood, Gwent. Roedd y clwb wedi gweithio gyda chynlluniau gan blant ysgol er mwyn trawsffurfio ardal o dir diffaith mewn i ystafell ddosbarth awyr agored a gardd gudd ar gyfer eu hysgol gynradd leol. Bu’r aelodau yn creu ardal ddiogel ar gyfer plant Ysgol A.R.W er mwyn chwarae a dysgu am natur. Mae’r ardd yn cynnwys llwybr synhwyrau, fainc bren ar gyfer dweud storïau a cherflun helygen sy’n cael ei greu ar hyn o bryd.

Yn siarad ar ran y beirniad, dywedodd Mr John Lloyd Jones, Cadeirydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru: “Cawsom ein plesio gan y ffordd yr oedd clwb yma wedi mynd ati i ymgymryd â phrosiect enfawr, er mwyn creu lle hwyliog a thawel ar gyfer addysg awyr agored yn yr ysgol yn ogystal â chreu cyfleoedd gwych ar gyfer bywyd gwyllt lleol. Gweithiodd y clwb yn galed gan wneud penderfyniadau call a defnydd llawn o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu megis hen deiars a defnyddio busnesau lleol a sgiliau arbenigwyr lleol. Roedd hwn yn brosiect cymunedol gwych, “Gardd Gudd” sy’n darparu’r ysgol, mudiadau lleol a bywyd gwych gydag adnodd gwych.”

CFfI Llantrisant, Morgannwg oedd enillwyr y categori ‘Cymuned a Threftadaeth’ gyda’u “Care about your FOOD, WE DO”. Roedd y clwb wedi chwarae rhan flaenllaw mewn digwyddiad Open Farm Sunday sy’n ddigwyddiad blynyddol sy’n cael ei gydlynu gan LEAF (Linking Environment and Nature) ar y dydd Sul cyntaf ym mis Mehefin bob flwyddyn. Mae annog y cyhoedd, sy’n dod o ardaloedd trefol yn bennaf yn ardal Morgannwg i ddysgu sut y mae bwyd lleol yn cael ei gynhyrchu a ble mae’n dod ohono yn bwysig ar gyfer aelodau’r clwb. Yn ystod y dydd, cafwyd teithiau natur hefyd er mwyn dangos y bwyd gwyllt sydd i’w gael ar y fferm i’r cyhoedd. Daeth y diwrnod i ben gyda phawb yn derbyn cawl cartref.

“Roedd y clwb yma wedi mynd ati i gydweithio gyda fferm leol nid yn unig er mwyn agor eu gatiau yn ystod y digwyddiad Open Farm Sunday, ond hefyd i ddarparu teithiau er mwyn edrych ar fywyd gwyllt a sesiynau addysgiadol ar fwyd ac amaeth a chawsom ein plesio gan hyn. Mae’r bartneriaeth rhwng y fferm a’r clwb wedi datblygu’n dda ac mae’r clwb yn benderfynol o wneud hyn yn ddigwyddiad blynyddol ac yn gobeithio annog eraill i ymgymryd â phrosiectau tebyg drwy Gymru.”

CFfI Erwood, Brycheiniog enillodd y categori Adloniant a Digwyddiad. Cododd y clwb dros £6,000 ar gyfer elusennau drwy gynnal nifer o ddigwyddiadau llwyddiannus ac arloesol. Roedd y rhain yn amrywio o bryd o fwyd gyda thema hanesyddol y porthmyn, wedi ei gynnal mewn ysgubor ar fynydd yr Eppynt i sioe ffaswin gyda gwahaniaeth. Yn ystod y sioe ffasiwn ddefnyddiwyd dillad wedi eu “hailgylchu” o siop elusen er mwyn eu gwerthu, syniad unigryw iawn. Bu’r clwb hefyd yn cymryd rhan Wythnos Genedlaethol Ymgyrch y Welis er mwyn cefnogi a chodi ymwybyddiaeth o RABI.

Dywedodd Dylan Jones: “Mae nifer o’n clybiau ar draws Gymru yn cymryd rhan mewn prosiectau cymunedol ac amgylcheddol yn rheolaidd gan wirfoddoli eu sgiliau, gwaith llafur a gallu codi arian. Mae Cynllun Her y Gymuned yn rhoi cymorth i’r clybiau hyn i gael cydnabyddiaeth am eu gwaith caled. Gyda’r arian grant sydd ar gael drwy CFfI Cymru, gyda chefnogaeth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru rydym yn medru cynnig ychydig o gefnogaeth ariannol er mwyn gwneud y prosiectau hyn yn bosib.”

<