logocircle logotext logoyfc
 
 
navigationbar
 

 
galleryGaleri

Photos of Wales YFC members in the photo gallery Photos of Wales YFC members in the photo gallery
Photos of Wales YFC members in the photo gallery Photos of Wales YFC members in the photo gallery
Mwy >>
 

NEWYDDION

EDWARD POWELL ENILLYDD CYSTADLEUAETH MAGU LLO CFFI CYMRU NATWEST

Edward Powell o CFfI Radnor Valley ym Maesyfed fagodd y Prif Bencampwr yn y gystadleuaeth Magu Llo CFfI Cymru NatWest gyda Alex Hope o CFfI Llanfair ym Muallt, Brycheiniog a enillodd y gystadleuaeth blwyddyn diwethaf yn magu’r Is-Bencampwr.

Enillodd Edward, 18, sy’n gweithio adref ar y fferm deuluol yn New Radnor yn yml Presteigne gyda’i fustach y mae wedi bod yn ei fagu a’i barati ar gyfer y Fair Aeaf ers dechrau’r flwyddyn. Enillodd y wobr am y stocmon orau hefyd sy’n ystyried y ffordd y mae’r aelodau yn gofalu a paratoi eu lloi ar gyfer y gystadleuaeth yn ogystal a beirniadu bwrdd arddangos ble mae’r aelodau yn dangos manylion ynglyn a’r gost o fagu y llo.

Cafodd yr holl gystadleuwyr yn y cystadleuaeth y cyfle i werthu eu lloi yn y ffair a gwerthodd Edward ei lo ef am pris anhygoel, £4,700.

Nododd Caroline Dawson, Cadeirydd Pwyllgor Gweithgareddau a Rhyngwladol CFfI Cymru,
“Roeddwn yn falch o weld dros 20 o heffrod a bustach yn y gystadleuaeth gyda nifer o gystadleuwyr newydd yn ymgeisio eto eleni. Mae hyn yn llwyddiant anhygoel gyda’r holl aelodau yn datblygu eu sgiliau stocmon a’u profiad o ddangos gwartheg wrth gymryd rhan. Roedden yn hapus iawn gyda prisiau y lloi a werthwyd. Roedd yr holl loi o’r safon uchaf ac mae’n braf bod ein haelodau yn medru eu gwerthu am brisiau uchel.”

Cafodd y wobr ar gyfer y cystadleuydd newydd gorau ei wobrwyo i Meinir Jones o CFfI Llanfynydd, Sir Gâr a fu yn cystadlu gyda’i heffer.”

Ychwanegodd Andy Woodthorpe, Cyfawyddwr Cymru Wledig NatWest: "Mae hyn yn gystadleuaeth ardderchog sy’n rhoi cyfle i ffermwyr ifanc i brynu anifail ei hunain a’i ddangos mewn digwyddiad o’r safon uchaf. Yr oedd y safon unwaith eto eleni yn uchel iawn a hoffwn longyfarch pawb a fu yn cystadlu ac yn enwedig i Edward Powell am gipio’r wobr gyntaf."

<