NEWYDDION
CONFENSIWN CYMRU GYFAN
Mae cael meddwl agored yn ran allweddol o safbwynt Rhodri Evans ar y ddadl am ddatganoli. Mae’n gyn-gadeirydd cenedlaethol o Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ac mae’n eistedd ar Bwyllgor Gweithredol Confensiwn Cymru Gyfan ar ran y mudiad hwnnw. Gyda mwy na 6,000 o aelodau, mae’r mudiad yn lais i bobl ifanc, gwledig Cymru. Mae’n falch iawn i gynrychioli’r mudiad yn ymgynghoriad cenedlaethol Confensiwn Cymru Gyfan ac mae’n credu fod hyn yn adlewyrchiad o’r enw da sydd gan Glybiau Ffermwyr Ifanc yng Nghymru.
Mae amaethyddiaeth yn agos at galon Rhodri. Mae’n ffermio defaid a gwartheg yn Llanio Fawr, ger Tregaron, gyda’i wraig Caryl a’i mab bychan Daniel Rhys. Am y dair blynedd ddiwethaf mae wedi bod yn arbrofi gyda bwrw lloeau cydamserol, arferiad lle nad yw gwartheg yn cael eu godro o ganol mis Rhagfyr tan fis Mawrth, sy’n ddigon cyffredin yn Seland Newydd. Mae’n ffordd dda o reoli amser ac mae’n galluogi Rhodri i ganolbwyntio ar ŵyna. Gan fod ganddo dros 600 o ddefaid, nid yw hynny’n ddrwg o beth.
Mae Rhodri’n mwynhau cwrdd â phobl ac mae wedi mynychu nifer o ddigwyddiadau Confensiwn Cymru Gyfan, gan gynnwys rhai Caerffili, Bangor, Aberystwyth, ynghyd â’r lansiad ym Mhort Talbot. Bydd e hefyd yn Y Drenewydd a Machynlleth.
“Dwi’n hapus iawn gyda’r niferoedd sydd wedi troi lan i’r digwyddiadau hyd yn hyn,” dywedodd Rhodri. “Dwi’n falch fod cymaint o bobl ifanc yn barod i ddatgan eu barn ar berfformiad y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’n bwysig fod pobl ifanc yn credu bod eu barn o bwys. Dwi’n awyddus iawn fod bobl o bob oedran yn meddwl bod y ddadl ar ddatganoli yn berthnasol iddyn nhw a fod dyfodol Cymru yn eu dwylo.
“Mae’n bwysig fod Confensiwn Cymru Gyfan yn siarad â chyn gymaint o unigolion â phosib ac yn adrodd yn ôl barn y bobl i’r Cynulliad. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â chyrraedd y rheiny sydd ddim fel arfer yn cymryd llawer o diddordeb mewn gwleidyddiaeth neu materion cyfoes. Bod mas ar y strydoedd, mewn canolfannau siopa, a siarad ag aelodau’r cyhoedd am y materion sy’n agos at eu calonnau, dyna sydd wrth wraidd yr ymgyrch hon.
“Bydd y ddadl ar ddatganoli yn parhau tan fis Awst eleni, felly nawr yw’r amser i fod yn ran ohonno a chymryd y cyfle i ddweud eich dweud. Mynnwch wybod, mynnwch gyfrannu!”
DIWEDD
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rhodri Ellis Owen yn Cambrensis PR ar 029 2025 7075 neu rhodri@cambrensis.uk.com
Nodiadau i Olygyddion:
1. Ceir mwy o wybodaeth am Gonfensiwn Cymru Gyfan ar www.confensiwncymrugyfan.org, gyda gwybodaeth bellach ar sut i fynychu'r digwyddiadau cyhoeddus drwy’r llinell wybodaeth digwyddiadau ar 029 2069 4997.
2. Mae Confensiwn Cymru Gyfan, dan gadeiryddiaeth Syr Emyr Jones Parry, yn gorff cwbl annibynnol a diduedd. Cafodd ei sefydlu i ddadansoddi'r dadleuon o blaid ac yn erbyn cael pwerau ychwanegol ac, yn ei dro, i godi ymwybyddiaeth, ysgogi trafodaeth, ac annog pawb i gymryd rhan ymhlith pobl Cymru am yr ymgynghoriad sy'n cael ei gynnal ar hyd a lled gwlad o hyn hyd Awst 2009. Bydd y Confensiwn yn cyflwyno ei ganfyddiadau cyn diwedd 2009.

Galeri