NEWYDDION
CYNLLUN MENTER CFFI CYMRU NATWEST
Heddiw yn y Ffair Aeaf, gwobrwywyd enillwyr Cynllun Menter CFfI Cymru NatWest Cymru mewn seremoni wobrwyo yn Adeilad yr NFU.
Mae’r cynllun, sy’n cael ei rhedeg gan CFfI Cymru a’i noddi gan NatWest Cymru, yn annog aelodau a chyn aelodau hyd at 31 mlwydd oed i fagu hyder a phrofi syniadau busnes ac y mae ceisiadau'r gorffennol yn cynnwys prosiectau arallgyfeirio, busnesau prydferthwch, busnesau hamperi, gwasanaethau gwarchod anifeiliaid anwes a hyd yn oed sefydlu siopau llwyddiannus dros ben.
Enillydd y brif wobr eleni o £800 oedd Sioned Jones o Landysul, sydd wedi sefydlu “Ysgubor Harddwch a Sba Diwrnod” mewn ysgubor ar fferm ei rhieni. Dangosodd Sioned i’r beirniaid bod ganddi'r ddawn i ennill y gystadleuaeth. Esboniodd Sioned fod ganddi 4 mlynedd o brofiad yn y diwydiant a’i bod wedi bod yn hyfforddi gyda chwmnïoedd croen blaenllaw yn Llundain cyn gwneud enw da i’w hun yn gweithio yng Nghastell Newydd Emlyn am 4 mlynedd. Erbyn hyn, mae wedi datblygu busnes gwledig eu hun yn cynnig gwasanaeth harddwch Cymreig gwych.
Yn siarad ar ran y beirniaid, dywedodd Martin Doyle o NatWest Cymru: “Roedd beirniadu’r gystadleuaeth eleni mor anodd ag erioed, fodd bynnag, fe ddaethom i’r penderfyniad mai Sioned oedd wedi dangos y gallu wrth sefydlu ei busnes harddwch ac felly yr oedd hi’n llawn haeddu’r wobr gyntaf”.
Bedwyn Rees aelod o CFfI Capel Iwan, Sir Gâr enillodd yr ail wobr o £500 ar ôl iddo ddisgrifio ei fusnes gwaith coed a fydd yn cael ei sefydlu yn fuan. Mae Bedwyn yn gobeithio canolbwyntio ar greu darnau unigryw o ddodrefn ac adfer hen eitemau o ddodrefn.
Aeth y drydedd wobr i Mairwen Davies sydd wedi sefydlu partneriaeth deuluol a nawr yn rhedeg caffi'r Strand yn Llanfair ym Muallt. Esboniodd Mairwen i’r beirniaid ei bod wedi breuddwydio am redeg caffi ei hun ac nid oedd eisiau colli’r cyfle pan ddaeth y cyfle gyda’r Stand.
Yr oedd Mark Williams, Cyn Cadeirydd CFfI Cymru hefyd yn rhan o’r panel beirniadu a dywedodd, “Yr oedd yr holl ymgeiswyr a gafodd gyfweliad yn anhygoel, yr oedd yn bleser gweld nad yw’r bobl ifanc yn cael eu rhwystro gan broblemau cefn gwlad, a’u bod yn parhau i weithio’n galed i sefydlu mentrau busnes newydd a ddiddorol. Rwy’n dymuno yn dda i’r holl ymgeiswyr a gobeithio bydd eu busnesau yn mynd o nerth i nerth. ”
Y ddau a ddaeth yn agos i’r brig oedd Hannah Parr o Geredigion sydd wedi sefydlu cwmni dillad ar gyfer merlota – Top 2 Toe Supreme a Leon Morris a oedd wedi sôn am ei gynlluniau i ddatblygu ei fusnes fel ‘handyman’ a gweithiwr fferm yng nghanolbarth Cymru.
Dywedodd Daniel Downes, Cadeirydd Pwyllgor Materion Gwledig CFfI Cymru
“Mae poblogrwydd y Cynllun Menter yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, heb y gefnogaeth werthfawr gan NatWest ni fyddai’r bobl ifanc yma wedi derbyn cymaint o gefnogaeth ar gyfer sefydlu busnesau newydd. Pwy a ŵyr efallai bod Richard Branson y dyfodol ymhlith aelodau CFfI Cymru.”
Y beirniad eleni oedd Martin Doyle, NatWest; Emyr Jones, Llywodraeth Cynulliad Cymru; Mark Williams o CFfI Cymru a Delyth Davies o Menter a Busnes. Hoffai CFfI Cymru ddiolch i’r beirniad am eu cefnogaeth barhaol gyda’r cynllun hwn.

Galeri