NEWYDDION
CLWYD
Cynhaliwyd cystadleuaeth Barnu Moch Cymreig Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Clwyd nos Fawrth 27 Ebrill yn lladd-dy J. Williams & Co, Stryd y Dyffryn, Dinbych, gyda chaniatad caredig Glyn Davies. Daeth 54 aelod i gystadlu yn erbyn eu gilydd mewn pedwar adran. Ennillwyr yr adrannau oedd:- dan 16 – Elin Lambie, Clwb Uwchaled; dan 18 – Huw Williams, Clwb Betws yn Rhos; dan 21 – Huw Roberts, Clwb Chwitffordd; dan 26 – Ceri Llywela Jones, Clwb Betws yn Rhos, a dyma nhw yn y llun efo’r beirniaid, Glyn Davies, Phil Fowlie a Phil Davies. Clwb Betws yn Rhos gafwyd mwyaf o farciau yn gyfangwbwl. Dymuna CFfI Clwyd ddiolch I bawb fu’n ymwneud â’r gystadleuaeth, yn aelodau, feirniaid a stiwardiaid.
Dyma’r gystadleuaeth cyntaf o rai y Rali blynyddol, sydd eleni I’w gynnal yn Nant Holding, Cloy Lane, Owertyn ar 19 o Fehefin, pryd fydd cystadlu brwd iawn rhwng y Clybiau ar bob math o gystadlaethau.
Ar ddydd Gwener y Groglith aeth criw o aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Rhuthun i fynnu Moel Famau. Roedd y clwb eisiau codi arian i’r Sir, felly aethpwyd ati i feddwl am syniadau sut i godi arian. Daeth y syniad o ras dair coes fynnu Moel Famau, felly ar ôl wythnosau o drefnu, daeth criw helaeth o aelodau a rhieni ac arweinyddion i fyny i’r maes parcio i gychwyn y ras. Mr Eryl Williams, Maestyddyn oedd yn cychwyn y ras hon a chasglwyd £441.97 o bunnoedd i’r Sir. Cafodd y clwb noson bingo yn Neuadd Pwllglas nos Fercher y 29ain o Ebrill lle cyflwynwyd y siec o’r arian a gasglwyd i Sioned Haf Roberts, Arweinydd Ardal ar ran CFfI Sir Clwyd. Hoffai’r clwb ddiolch i’r NFU am eu noddi o £50 a hefyd i Athrawon Ysgol Bryn Hyfryd am eu rhodd o £50 hefyd.
Ar hyn o bryd mae’r clwb yn paratoi at y Rali Sir flynyddol sydd yn cael ei chynnal ar yr 20fed o Fehefin yn Bryn Ffanigl Ganol, Betws yn Rhos, byddant yn cystadlu mewn ambell gystadleuaeth gan gynnwys barnu stoc.
Eleni yn Sioe Flodau Rhuthun ar yr 8fed o Awst, bydd adran ychwanegol yn arbennig i Glwb Ffermwyr Ifanc Rhuthun, gydag wyth cystadleuaeth iddynt gystadlu. Mae’r clwb yn edrych ymlaen at y Sioe a bydd cystadlaethau mewn adrannau Coginio, Garddwriaeth, Barnu Stoc a Ffotograffiaeth.

Galeri