NEWYDDION
MAESYFED
Mae Rhiannon Mills, aelod o CFfI Cantal wedi cael ei dewis fel cynrychiolydd o Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru i fynd ar daith tramor i Ganada. Mae hyn yn rhan o’r rhaglen Ryngwladol sydd ar gael i holl aelodau CFfI. Bydd Rhiannon yn teithio ar ddechrau mis Hydref ac fe fydd hi yn aros gyda theuluoedd yn ardal y rockies o Ganada. Mae Rhiannon a CFfI Maesyfed am ddiolch i’w cyflogwyr ‘Framewise’ o Presteigne am ganiatáu amser oddi wrth waith er mwyn iddi gael y profiad gwerthfawr yma.

Galeri