NEWYDDION
CEREDIGION
Y C.Ff.I. yn Eisteddfod yr Urdd
Eleni, gan fod yr eisteddfod yn dod i Geredigion, penderfynodd C.Ff.I. Ceredigion y byddai hyn yn gyfle da i hyrwyddo’r mudiad. Roedd y mudiad yn rhannu stondin gyda’r FUW am yr wythnos - a diolch am eu caredigrwydd nhw i roi lle i’r C.Ff.I. ar eu stondin. Bu llawer o bobl yn ymweld â’r stondin yn ystod yr wythnos, a bu aelodau’r sir yn brysur yn defnyddio deunydd hyrwyddo newydd y sir fel y balŵns a’r sticeri, i wneud yn siŵr bod pawb yn gwybod ein bod ni yna! Hefyd, cafodd yr aelodau’r cyfle gwych i berfformio o flaen y dyrfa yn yr eisteddfod - gan i G.Ff.I. Ceredigion gael 2 awr o slot ar lwyfan perfformio’r Cyngor Celfyddydau ar y maes, i arddangos eu talent! Yn ogystal, ar ddydd Llun yr eisteddfod cynhaliwyd digwyddiad codi arian, lle’r oedd dynion dewr y mudiad a Chadeirydd C.Ff.I. Cymru, Tim John, yn cael eu coesau wedi’u ‘waxo’ ar gyfer elusen Sefydliad Aren Cymru. ‘O chi’n ddewr iawn bois!
Llongyfarchiadau hefyd i bob aelod o’r mudiad fu’n cystadlu yn eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron, a dod â chlod i’r sir, ac i’r rhai fu’n perfformio yn y sioeau uwchradd a chynradd. Yn enwedig, mae’n bleser llongyfarch Catrin Haf, aelod o G.Ff.I. Mydroilyn, am ennill y Goron - llongyfarchiadau mawr i ti!
Cynhaliwyd gig ar noson olaf y cystadlu ar y cyd rhwng y C.Ff.I. a Phwyllgor Ieuenctid Eisteddfod yr Urdd, a chafwyd noson lwyddiannus iawn yng Nghlwb Rygbi Aberaeron, gyda Fushanti ac Elin Fflur.
Rygbi 7 bob ochr
Cynhaliwyd cystadleuaeth rygbi 7 bob ochr blynyddol y mudiad yng Nghlwb Rygbi Aberaeron ar nos Wener 11 Mehefin. Bu 4 tîm yn cystadlu, a’r enillwyr ar y diwedd oedd tîm o’r enw’r ‘Llan-siân Darlings’, sef cyfuniad o aelodau o glybiau Pontsian, Llanddewi Brefi a Llanwennog. Dewiswyd 15 chwaraewr i fod yn rhan o’r sgwad fydd yn cynrychioli Ceredigion yn Sioe Frenhinol. Pob lwc i chi bois!
Chwaraeon y Sir
Cyfle i’r siorts a’r trainers ddod mas am flwyddyn arall a gafwyd ar 19 Mehefin, ar gyfer cystadleuaeth olaf y flwyddyn sef y chwaraeon, a gynhaliwyd yn Llambed. Llongyfarchiadau i glybiau Bro’r Dderi a Phontsian am ddod yn gydradd fuddugol ar ddiwedd y cystadlu! Yn gydradd drydydd oedd Llanwennog a Mydroilyn. Dyma’r buddugwyr:
Athletau: 1af Bro’r Dderi
Badminton: 1af Mydroilyn
Pêl-droed dan 26: 1af Llanwennog
Pêl-droed dan 17: 1af Bro’r Dderi
Dodgeball: 1af Pontsian
Hoci dan 26: 1af Pontsian
Pêl-rwyd dan 26: 1af Pontsian
Pêl-rwyd dan 18: 1af Bro’r Dderi
Clwb 200
Enillwyr mis Mehefin:
1af C.Ff.I. Llanwennog
2il Eirlys Lloyd, Llanfarian
3ydd Helen Hopkins, Blaenpennal
Digwyddiadau i’ch dyddiadur!
23 Mehefin - Noson yng nghwmni Carmelo Gale. Clwb Rygbi Aberaeron 8pm
29 Mehefin - It’s a Knockout y fforwm Ieuenctid i aelodau dan 18. Cel Aeron
9 Gorffennaf - It’s a Knockout i aelodau hŷn ac aelodau cyswllt. Cel Aeron
19 -23 Gorffennaf - Sioe Frenhinol Cymru
4 Awst - Treialon Cŵn defaid y sir, Llanrhystud

Galeri