logocircle logotext logoyfc
 
 
navigationbar
 

 
galleryGaleri

Photos of Wales YFC members in the photo gallery Photos of Wales YFC members in the photo gallery
Photos of Wales YFC members in the photo gallery Photos of Wales YFC members in the photo gallery
Mwy >>
 

NEWYDDION

SIR BENFRO


Ffermwyr Ifanc Sir Benfro yn derbyn her Dudley

Ar raglen Dudley: O’r Gât i’r Plât ar S4C, nos Fercher 30 Mehefin am 9:00pm, bydd criw o ffermwyr ifanc o Sir Benfro yn derbyn her gan y cogydd Dudley Newbery i baratoi pryd o fwyd syml.

Gyda chromlech Pentref Ifan yn gefndir trawiadol, bydd y pedwar ffermwr ifanc - Robert Davies, Catrin Williams, Aled Johnson a Lisa Thomas - yn dilyn cyfarwyddiadau cam wrth gam Dudley er mwyn paratoi pryd syml o gyw iâr gyda saws madarch a saets.

Er bod y pedwar yn honni nad ydyn nhw’n gogyddion profiadol iawn, mae Dudley wedi ei blesio gan eu hymdrechion. Ond pa un lwyddodd i greu’r pryd mwyaf blasus?

Yn ystod y rhaglen, bydd Dudley yn ymweld â Marchnad Ffermwyr Hwlffordd, gan gwrdd â chynhyrchwyr bwyd Sir Benfro sy’n gwerthu eu cynnyrch yn y farchnad. Bydd hefyd yn paratoi pryd o fwyd i’r ddwy chwaer Mari Grug a Lisa Haf a fagwyd ym Mynachlog Ddu.

Dudley: O’r Gât i’r Plât
Nos Fercher 30 Mehefin 21:30, S4C


Barnu Stoc

Cynhaliwyd cystadlaethau terfynol barnu gwartheg godro yn ddiwedd yn ystod y digwyddiad Llaeth a Da byw yn Stoneleigh, Swydd Warick yn ddiweddar. Cafodd Caroline Lewis o CFfI Llysyfran ei gosod yn ail yn yr adran hon, ac aelod o Sir Gâr oedd yn gyntaf.
Cafodd tîm Sir Benfro sef Caroline a Jane Elliott o CFfI Llawhaden a Caitlin Davies, CFfI Llysyfran eu gosod yn 11 allan o 36 o dimoedd.


Siarad Cyhoeddus Aelodau Iau

Cynhaliwyd cystadlaethau siarad cyhoeddus iau Sir Benfro yn ddiweddar a chafodd y beirniad Malcom Lewis y dasg anodd o feirniadu'r aelodau. Yr oedd gofyn i’r aelodau a oedd yn 16 mlwydd oed neu iau cadeirio cyfarfod, cyflwyno araith a rhoi cynnig o ddiolch o flaen gynulleidfa enfawr.

Ar ddiwedd y gystadleuaeth CFfI Templeton aeth a tair tarian allan o bedwar. Vincent Morse derbyniodd y cwpan ar gyfer y siaradwr gorau ar ôl ei araith ysbrydoledig ar roi gwaed, a’i chwaer Bryony rhoddodd y bleidlais o ddiolch gorau. Roedd Hannah Phillips hefyd yn rhan o’r tîm a ddaeth yn gyntaf. Cafodd CFfI Eglwyswrw eu gosod yn ail a CFfI Llawhaden a Llysyfran eu gosod yn gydradd drydydd.

Christina Morgan o CFfI Llysyfran oedd y cadeirydd gorau.


Mae tîm o ddarllenwyr Ifanc o Sir Benfro wedi ennill ar lefel cenedlaethol. Cafodd Daniel James o CFfI South Pembs a Sara Edwards a Hannah Watkins o CFfI Eglwyswrw eu gosod yn gyntaf allan o’r holl dimoedd a oedd yn cystadlu yn y cystadlaethau siarad cyhoeddus a gynhaliwyd yn Stafford yn ddiweddar.
Daeth tîm siarad ar ôl cinio Sir Benfro yn gydradd pumed.

<