logocircle logotext logoyfc
 
 
navigationbar
 

 
galleryGaleri

Photos of Wales YFC members in the photo gallery Photos of Wales YFC members in the photo gallery
Photos of Wales YFC members in the photo gallery Photos of Wales YFC members in the photo gallery
Mwy >>
 

NEWYDDION

MALDWYN

CFfI Maldwyn yn canwio dros 130 milltir i lawr Afon Hafren er budd Ambiwlans Awyr Cymru

Bydd 23 o Ffermwyr Ifanc Maldwyn yn gadael eu tractorau gartref yr wythnos nesaf, ac yn trafeilio mewn dull ychydig yn wahanol i’r arfer wrth iddynt feicio a chanwio o darddle’r Afon Hafren i Tewkesbury er budd elusen.
Daeth y syniad am Her Hafren gan grwp o aelodau mudiad CFfI Maldwyn, fel dull gwahanol o godi arian ar gyfer yr elusen hynod deilwng, Ambiwlans Awyr Cymru. Ar yr 28ain o Awst 2009, bydd yr her yn dechrau wrth darddle’r Hafren uwchlaw Coedwig Hafren, ger Llanidloes. Bydd yr her yn dechrau ar droed, wrth i’r criw gerdded ar hyd llwybrau culion Pumlumon tan iddynt gyrraedd crombil Coedwig Hafren. Byddant yn seiclo y 30 milltir nesaf i Garthmyl, ac o Garthmyl, bydd y criw yn canwio i lawr y Gamlas tan iddynt gyrraedd Pool Quay. Yno byddant yn ymuno ag Afon Hafren, afon hiraf Prydain, ac yn can˘io 115 milltir yr holl ffordd i Tewkesbury yn Swydd Gaerloyw.
Mae’r holl griw sy’n cymryd rhan yn aelodau o fudiad CFfI Maldwyn, ac yn dod o wahanol glybiau ledled y sir. Mae’r aelodau sy’n ymgymryd â’r her yn amrywio o 18 oed i 26 oed, ac mae’r profiad o gan˘io yn newydd sbon i’r rhan fwyaf ohonynt.
Dydy’r her ddim yn rhwydd o bell ffordd – byddant yn teithio 16 milltir ar gyfartaledd bob dydd – a gobeithia’r aelodau gwblhau Her Hafren mewn 8 diwrnod yn unig. Byddant yn gwersylla ar hyd glannau’r afon ar y daith, gyda thîm wrth gefn o aelodau yn eu dilyn a’u cefnogi gydol yr wythnos.
Os hoffech wybod mwy am Her Hafren, neu os hoffech chi noddi’r criw, ewch i www.justgiving.co.uk/severnchallenge neu e-bostio severnchallenge@hotmail.co.uk
Diwedd.

<