logocircle logotext logoyfc
 
 
navigationbar
 

 
galleryGaleri

Photos of Wales YFC members in the photo gallery Photos of Wales YFC members in the photo gallery
Photos of Wales YFC members in the photo gallery Photos of Wales YFC members in the photo gallery
Mwy >>
 

Croeso i CFfI Cymru

Croeso i wefan CFfI Cymru. Mae CFfI Cymru yn fudiad ieuenctid gwirfoddol sy'n cynrychioli 6,000 o bobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru. Er bod enw'r Mudiad yn cyfeirio at ffermwyr ifanc, mae ein haelodaeth yn cynnwys pobl ifanc o bob cefndir sy'n byw yng nghefn gwlad - felly nid oes rhaid i chi fod yn ffermwr er mwyn bod yn aelod - os ydych rhwng 10 a 26 mlwydd oed ac yn joio byw a joio dysgu ymunwch gyda CFfI Cymru mwy...

Y diweddaraf o CFfI Cymru

A-Y

Rydym wedi creu tudalen A-Y fel y gallwch ddod o hyd i bethau'n haws. Cliciwch yma i fynd i'r tudalen.

 

CCB Fforwm Ieuenctid

Fe fydd trip CCB Fforwm Ieuenctid yn cael ei gynnal o ddydd Mawrth 26ain o Awst nes dydd Iau 28ain o Awst. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

 

 

 

Sioe Frenhinol Cymru

Llongyfarchiadau i bawb a fu yn cymryd rhan yn y sioe. Am luniau cliciwch yma ac am ganlyniadau cliciwch yma.

Er bod gweithgareddau'r sioe wedi dod i ben, gallwch wylio uchafbwyntiau CFfI Cymru oddi ar wefan S4C nes ddiwedd mis Awst. Cliciwch yma i fynd i'r wefan.

Roedd newyddion ITV yn bresennol yn y Pentref Ieuenctid nos Fawrth, cliciwch yma am eu hadroddiad ac yma am gyfweliad gyda Lisa Lashes.



Cefnogaeth ar gyfer newydd ddyfodiaid mewn ffermio yn y dyfodol

Bydd CFfI Cymru yn ymateb i ymgynghoriad ar Newydd Ddyfodiaid. Mae hwn yn ymgynghoriad pwysig a fydd yn golygu y bydd mwy o gefnogaeth ar gyfer newydd ddyfodiaid yn y diwydiant amaethyddol. I leisio eich barn ar y mater neu i fod yn rhan o'r ymateb cysylltwch gydag eich swyddfa sirol neu Susie Hobby yn Swyddfa CFfI Cymru. Gallwch edrych ar yr ymgynghoriad drwy glicio yma.

 

"Torri Tir Newydd"

Mae CFfI Cymru wedi cynhyrchu llyfryn yn llawn o brofiadau pobl ifanc mentrus yng nghefn gwlad Cymru. Cliciwch yma i ddarllen am y rhai sydd wedi mynd ati i fentro rhywbeth newydd.

 

 




Mudiadau Dathlu'r Gymraeg

Mae Mudiad Ffermwyr Ifanc yn falch o fod yn rhan o Fudiadau Dathlu'r Gymraeg, grŵp ymbarél sydd am ddathlu llwyddiant y Gymraeg ac sy'n galw am gyfres o fesurau cryfion newydd er mwyn sicrhau ei pharhad.

 

 

 

Darlun y Dathlu

Mae Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru yn 70 oed, ac i gofio'r achlysur arbennig yma comisiynwyd dau arlunydd, Aneurin Jones a'i fab Meirion i wneud darlun ar y cyd. Mae prints o'r darlun nawr ar werth, cliciwch yma am ffurflen archebu a phrisiau.


 

 

Dwyieithrwydd

Mae Swyddog Hyrwyddo'r Gymraeg yn gyfrifol am sicrhau bod darpariaeth yr iaith Gymraeg a dwyieithrwydd yn cael ei ddatblygu o fewn y mudiad yn ganolog ac o fewn y siroedd. Cliciwch yma a fwy o fanylion.

 

Elusen y Flwyddyn

Elusennau'r flwyddyn yw Ty Hafan yn ymyl Caerdydd a Ty Gobaith yng Nghonwy. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth parthed Ty Hafan ac yma am fwy o wybodaeth parthed Ty Gobaith.

 

 

 

Gwefannau am ddim ar gyfer Clybiau Ffermwyr Ifanc

Am wybodaeth bellach am sut i greu gwefan ar gyfer eich clwb cliciwch yma os gwelwch yn dda. Cofiwch os ydych yn creu gwefan rhowch wybod i CFfI Cymru fel y gallwn roi link o'n gwefan ni

 

 

Am ragor o newyddion a datganiadau'r wasg cliciwch yma os gwelwch yn dda.